Judges 4:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Jael gwraig Heber a gymerth hoel o'r babell, ac a gymerodd forthwyl yn ei llaw, ac a aeth i mewn ato ef yn ddistaw, ac a bwyodd yr hoel yn ei arlais ef, ac a'i gwthiodd i'r ddaear; canys yr oedd efe yn cysgu, ac yn lluddedig; ac felly y bu efe farw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Sisera wedi ymlâdd ac wedi syrthio i gysgu'n drwm. A dyma Jael yn cymryd peg pabell a morthwyl a mynd at Sisera'n dawel bach. Yna dyma hi'n bwrw'r peg drwy ochr ei ben i'r ddaear, a'i ladd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerodd Jael, gwraig Heber, hoelen pabell, cydiodd mewn morthwyl, ac aeth ato'n ddistaw a phwyo'r hoelen trwy ei arlais i'r llawr; yr oedd ef mewn trymgwsg ar l ei ludded, a bu farw.