Judges 4:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, a Barac yn erlid Sisera, Jael a aeth i'w gyfarfod ef; ac a ddywedodd wrtho, Tyred, a mi a ddangosaf i ti y gŵr yr wyt ti yn ei geisio. Ac efe a ddaeth i mewn ati; ac wele Sisera yn gorwedd yn farw, a'r hoel yn ei arlais.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Barac wedi bod yn dilyn Sisera. Pan gyrhaeddodd dyma Jael yn mynd allan i'w gyfarfod a dweud wrtho, “Tyrd yma i mi ddangos i ti'r dyn ti'n edrych amdano.” Aeth Barac i mewn i'r babell gyda hi a dyna lle roedd Sisera yn gorwedd yn farw, gyda peg pabell wedi ei fwrw drwy ei ben.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cyrhaeddodd Barac, yn ymlid Sisera; aeth Jael allan i'w gyfarfod, a dywedodd wrtho, "Tyrd, fe ddangosaf iti'r dyn yr wyt yn chwilio amdano." Aeth yntau i mewn, a dyna lle'r oedd Sisera yn gorwedd yn farw, a'r hoelen yn ei arlais.