Judges 4:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hi a ddywedodd, Gan fyned yr af gyda thi: eto ni bydd gogoniant i ti yn y daith yr wyt yn myned iddi; canys yn llaw gwraig y gwerth yr ARGLWYDD Sisera. A Debora a gyfododd, ac a aeth gyda Barac i Cedes.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Iawn,” meddai hi, “gwna i fynd gyda ti. Ond os mai dyna dy agwedd di fyddi di'n cael dim o'r clod. Bydd yr ARGLWYDD yn trefnu mai gwraig fydd yn delio gyda Sisera.” Felly aeth Debora gyda Barac i Cedesh.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai hithau, "Dof, mi ddof gyda thi; eto ni ddaw gogoniant i ti ar y llwybr a gerddi, oherwydd i law gwraig y mae'r ARGLWYDD am werthu Sisera." Yna cododd Debora a mynd gyda Barac i Cedes.