Judges 5:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai a waredwyd rhag trwst y saethyddion yn y lleoedd y tynnir dwfr; yno yr adroddant gyfiawnderau yr ARGLWYDD, cyfiawnderau tuag at y trefydd yn Israel: yna pobl yr ARGLWYDD a ânt i waered i'r pyrth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwrandwch arnyn nhw'n canu wrth y ffynhonnau! — yn canu am y cwbl wnaeth yr ARGLWYDD, a'r cwbl wnaeth rhyfelwyr Israel. Aeth byddin yr ARGLWYDD at giatiau'r ddinas!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywch y rhai sy'n disgwyl eu tro ger y ffynhonnau, ac yno'n adrodd buddugoliaethau'r ARGLWYDD, buddugoliaethau ei bentrefwyr yn Israel, pan aeth byddin yr ARGLWYDD i lawr i'r pyrth.