Judges 5:28 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mam Sisera a edrychodd trwy ffenestr, ac a waeddodd trwy'r dellt, Paham yr oeda ei gerbyd ddyfod? paham yr arafodd olwynion ei gerbydau?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth y ffenest roedd ei fam yn disgwyl; mam Sisera'n gweiddi yn ei gofid: “Pam mae e mor hir yn dod nôl? Pam nad oes sŵn carnau a cherbyd yn cyrraedd?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Edrychai mam Sisera trwy'r ffenestr a llefain trwy'r dellt: 'Pam y mae ei gerbyd yn oedi? Pam y mae twrf ei gerbydau mor hir yn dod?'