Judges 5:31 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly y darfyddo am dy holl elynion, O ARGLWYDD: a bydded y rhai a'i hoffant ef fel yr haul yn myned rhagddo yn ei rym. A'r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O ARGLWYDD, boed i dy elynion i gyd ddarfod yr un fath! Ond boed i'r rhai sy'n dy garu di ddisgleirio'n llachar fel yr haul ganol dydd! Ar ôl hynny roedd heddwch yn y wlad am bedwar deg o flynyddoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Felly bydded i'th holl elynion ddarfod, O ARGLWYDD, ond bydded y rhai sy'n dy garu fel yr haul yn codi yn ei rym." Yna cafodd y wlad lonydd am ddeugain mlynedd.