Judges 5:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dewisasant dduwiau newyddion; yna rhyfel oedd yn y pyrth: a welwyd tarian na gwaywffon ymysg deugain mil yn Israel?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Israel yn dilyn duwiau newydd, a daeth gelynion i ymosod ar eu giatiau. Doedd dim tarian na gwaywffon i'w gael gan bedwar deg o unedau milwrol Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddewiswyd duwiau newydd, yna daeth brwydro i'r pyrth, ac ni welwyd na tharian na gwaywffon ymhlith deugain mil yn Israel.