Judges 6:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Gedeon a ddywedodd wrtho, O fy arglwydd, od yw yr ARGLWYDD gyda ni, paham y digwyddodd hyn oll i ni? a pha le y mae ei holl ryfeddodau ef, y rhai a fynegodd ein tadau i ni, gan ddywedyd, Oni ddug yr ARGLWYDD ni i fyny o'r Aifft? Ond yn awr yr ARGLWYDD a'n gwrthododd ni, ac a'n rhoddodd i law y Midianiaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Beth, syr?” meddai Gideon. “Os ydy'r ARGLWYDD gyda ni, pam mae pethau mor ddrwg arnon ni? Pam nad ydy e'n gwneud gwyrthiau rhyfeddol fel y rhai soniodd ein hynafiaid amdanyn nhw? ‘Daeth yr ARGLWYDD â ni allan o'r Aifft!’ — dyna roedden nhw'n ei ddweud. Ond bellach mae'r ARGLWYDD wedi troi ei gefn arnon ni, a gadael i'r Midianiaid ein rheoli.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ateb-odd Gideon ef, "Ond, syr, os yw'r ARGLWYDD gyda ni, pam y mae hyn i gyd wedi digwydd inni? A phle mae ei holl ryfeddodau y soniodd ein hynafiaid amdanynt, a dweud wrthym, 'Oni ddygodd yr ARGLWYDD ni i fyny o'r Aifft?'