Judges 6:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r noson honno y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho ef, Cymer y bustach sydd eiddo dy dad, sef yr ail fustach saith mlwydd oed; a bwrw i lawr allor Baal yr hon sydd eiddo dy dad, a thor i lawr y llwyn sydd yn ei hymyl hi:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y noson honno, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Cymer y tarw gorau ond un sydd gan dy dad, yr un saith mlwydd oed. Yna dos a chwalu'r allor sydd gan dy dad i Baal, a torri'r polyn Ashera sydd wrth ei ymyl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y noson honno dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Cymer ych o eiddo dy dad, yr ail ych, yr un seithmlwydd, a thyn i lawr yr allor i Baal sydd gan dy dad, a thor i lawr y pren Asera sydd yn ei hymyl.