Judges 6:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac adeilada allor i'r ARGLWYDD dy DDUW ar ben y graig hon, yn y lle trefnus; a chymer yr ail fustach, ac offryma boethoffrwm â choed y llwyn, yr hwn a dorri di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dw i eisiau i ti adeiladu allor i'r ARGLWYDD dy Dduw ar ben y bryn yma a gosod y cerrig mewn trefn. Defnyddia bolyn y dduwies Ashera wnest ti ei dorri i lawr fel coed tân i aberthu'r tarw yn offrwm i'w losgi'n llwyr.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Adeilada allor briodol i'r ARGLWYDD dy Dduw ar ben y fangre hon; yna cymer yr ail ych a'i offrymu'n boethoffrwm ar goed yr Asera a dorraist i lawr."