Judges 6:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan heuasai Israel, yna Midian a ddaeth i fyny, ac Amalec, a meibion y dwyrain; hwy a ddaethant i fyny yn eu herbyn hwy:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bob tro y byddai pobl Israel yn plannu cnydau, byddai'r Midianiaid, yr Amaleciaid, a phobl eraill o'r dwyrain yn ymosod arnyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bob tro y byddai'r Israeliaid wedi hau, byddai Midian ac Amalec a'r dwyreinwyr yn dod ac yn ymosod arnynt;