Judges 6:31 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Joas a ddywedodd wrth y rhai oll a oeddynt yn sefyll yn ei erbyn ef, A ddadleuwch chwi dros Baal? ai chwi a'i ceidw ef? yr hwn a ddadleuo drosto ef, bydded farw y bore hwn: os DUW yw efe, dadleued drosto ei hun, am fwrw ei allor ef i lawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Joas yn dweud wrth y dyrfa oedd yn ei fygwth, “Ydy Baal angen i chi ymladd ei frwydrau? Ydych chi'n mynd i'w achub e? Bydd unrhyw un sy'n ymladd drosto wedi marw erbyn y bore. Os ydy Baal yn dduw go iawn, gadewch iddo ymladd ei frwydrau ei hun pan mae rhywun yn dinistrio ei allor!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond meddai Joas wrth bawb oedd yn sefyll o'i gwmpas, "A ydych chwi am ddadlau achos Baal? A ydych chwi am ei achub ef? Rhoir pwy bynnag sy'n dadlau drosto i farwolaeth erbyn y bore. Os yw'n dduw, dadleued drosto'i hun am i rywun fwrw ei allor i lawr."