Judges 6:35 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a anfonodd genhadau trwy holl Manasse, yr hwn hefyd a'i canlynodd ef: anfonodd hefyd genhadau i Aser, ac i Sabulon, ac i Nafftali; a hwy a ddaethant i fyny i'w cyfarfod hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna anfonodd negeswyr drwy diroedd llwythau Manasse, Asher, Sabulon, a Nafftali i alw mwy o ddynion, a dyma nhw i gyd yn dod at ei gilydd i wynebu'r gelynion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonodd negeswyr drwy Manasse gyfan a galw arnynt hwythau hefyd i'w ddilyn. Yna anfonodd negeswyr drwy Aser, Sabulon a Nafftali, a daethant hwythau i'w cyfarfod.