Judges 6:39 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Gedeon a ddywedodd wrth DDUW, Na lidied dy ddicllonedd i'm herbyn, a mi a lefaraf unwaith eto. Profaf yn awr, y waith hon yn unig, trwy'r cnu: bydded, atolwg, sychder ar y cnu yn unig, ac ar yr holl ddaear bydded gwlith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Gideon yn dweud wrth Dduw, “Paid gwylltio gyda mi os gofynna i am un arwydd arall. Gad i mi brofi un waith eto gyda'r gwlân. Y tro yma cadw'r gwlân yn sych tra mae'r ddaear o'i gwmpas yn wlith i gyd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond meddai Gideon wrth Dduw, "Paid digio wrthyf os gofynnaf un peth arall; yr wyf am wneud un prawf arall 'r cnu: bydded y cnu'n unig yn sych, a gwlith ar y llawr i gyd."