Judges 6:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a wersyllasant yn eu herbyn hwynt, ac a ddinistriasant gnwd y ddaear, hyd oni ddelych i Gasa; ac ni adawsant ddim ymborth yn Israel, na dafad, nac eidion, nac asyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw'n cymryd y wlad drosodd ac yn dinistrio'r cnydau i gyd, yr holl ffordd i Gasa. Roedden nhw'n dwyn y defaid, yr ychen a'r asynnod a gadael dim i bobl Israel ei fwyta.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
byddent yn gwersyllu yn eu herbyn ac yn distrywio cnwd y ddaear cyn belled Gasa, heb adael unrhyw beth byw yn Israel, na dafad nac ych nac asyn.