Judges 7:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Jerwbbaal, hwnnw yw Gedeon, a gyfododd yn fore, a'r holl bobl y rhai oedd gydag ef, ac a wersyllasant wrth ffynnon Harod: a gwersyll y Midianiaid oedd o du y gogledd iddynt, wrth fryn More, yn y dyffryn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y bore wedyn dyma Gideon a'i fyddin yn mynd allan a gwersylla wrth Ffynnon Charod. Roedd byddin Midian wedi gwersylla yn y dyffryn ychydig i'r gogledd, wrth ymyl Bryn More.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cododd Jerwbbaal, sef Gideon, a'r holl bobl oedd gydag ef yn gynnar a gwersyllu ger ffynnon Harod. Yr oedd gwersyll Midian yn y dyffryn i'r gogledd o fryn More.