Judges 7:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Midianiaid, a'r Amaleciaid, a holl feibion y dwyrain, oedd yn gorwedd yn y dyffryn fel locustiaid o amldra; a'u camelod oedd heb rif, fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y gwersyll yn anferth! Roedd y Midianiaid, yr Amaleciaid, a'r bobloedd eraill o wledydd y dwyrain yn gorchuddio'r dyffryn fel haid o locustiaid! Roedd ganddyn nhw ormod o gamelod i'w cyfrif — roedden nhw fel y tywod ar lan y môr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y Midianiaid a'r Amaleciaid a'r holl ddwyreinwyr wedi disgyn ar y dyffryn fel haid o locustiaid; yr oedd eu camelod mor ddirifedi thywod glan y mr.