Judges 7:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth Gedeon, wele ŵr yn mynegi i'w gyfaill freuddwyd, ac yn dywedyd, Wele, breuddwyd a freuddwydiais; ac wele dorth o fara haidd yn ymdreiglo i wersyll y Midianiaid, a hi a ddaeth hyd at babell, ac a'i trawodd fel y syrthiodd, a hi a'i hymchwelodd, fel y syrthiodd y babell.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan gyrhaeddodd Gideon ymyl y gwersyll dyma fe'n clywed rhyw ddyn yn dweud wrth ddyn arall am freuddwyd gafodd e. “Ces i freuddwyd am dorth haidd gron yn rholio i lawr i wersyll Midian. Dyma hi'n taro'r babell mor galed nes i'r babell droi drosodd. Syrthiodd yn fflat ar lawr.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan gyrhaeddodd Gideon, dyna lle'r oedd rhyw ddyn yn adrodd breuddwyd wrth ei gyfaill ac yn dweud, "Dyma'r freuddwyd a gefais. Yr oeddwn yn gweld torth o fara haidd yn rhowlio trwy wersyll Midian, a phan ddi at babell, yr oedd yn ei tharo a'i thaflu a'i dymchwel nes bod y babell yn disgyn."