Judges 7:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly Gedeon a ddaeth i mewn, a'r cannwr oedd gydag ef, i gwr y gwersyll, yn nechrau'r wyliadwriaeth ganol, a'r gwylwyr wedi eu newydd osod, ac a utganasant mewn utgyrn, ac a ddrylliasant y piserau oedd yn eu dwylo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth Gideon â chant o filwyr at gyrion y gwersyll, ychydig ar ôl deg o'r gloch y nos, pan oedd y gwylwyr wedi newid sifft. A dyma nhw'n chwythu'r cyrn hwrdd a torri'r jariau oedd ganddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyrhaeddodd Gideon a'r cant o ddynion oedd gydag ef at gwr y gwersyll ar ddechrau'r wyliadwriaeth ganol, a'r gwylwyr newydd eu gosod. Seiniasant yr utgyrn, a dryllio'r piserau oedd yn eu llaw.