Judges 7:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r tair byddin a utganasant mewn utgyrn, ac a ddrylliasant y piserau, ac a ddaliasant y lampau yn eu llaw aswy, a'r utgyrn yn eu llaw ddeau i utganu: a hwy a lefasant, Cleddyf yr ARGLWYDD a Gedeon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r tair uned yn gwneud yr un fath. Roedden nhw'n dal eu ffaglau yn un llaw ac yn chwythu'r corn hwrdd gyda'r llall. Yna dyma nhw'n gweiddi, “I'r gâd dros yr ARGLWYDD a Gideon!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma'r tair mintai yn seinio'r utgyrn ac yn dryllio'r piserau, gan ddal y ffaglau yn eu llaw chwith a'r utgyrn i'w seinio yn eu llaw dde; ac yr oeddent yn gweiddi, "Cleddyf yr ARGLWYDD a Gideon!"