Judges 7:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A safasant bob un yn ei le, o amgylch y gwersyll: a'r holl wersyll a redodd, ac a waeddodd, ac a ffodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
[21-22] Roedden nhw o gwmpas y gwersyll i gyd, yn sefyll mewn trefn. Pan oedd milwyr Gideon yn chwythu eu cyrn hwrdd, dyma filwyr y gelyn yn gweiddi mewn panig a cheisio dianc. Dyma'r ARGLWYDD yn gwneud iddyn nhw ddechrau ymladd ei gilydd drwy'r gwersyll i gyd. Roedd llawer o'r milwyr wedi dianc i Beth-sitta, sydd ar y ffordd i Serera, ar y ffin gydag Abel-mechola, ger Tabath.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tra oedd pob un yn sefyll yn ei le o gwmpas y gwersyll, rhuthrodd yr holl wersyll o gwmpas gan weiddi a ffoi.