Judges 7:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Gedeon a anfonodd genhadau trwy holl fynydd Effraim, gan ddywedyd, Deuwch i waered yn erbyn y Midianiaid, ac achubwch o'u blaen hwynt y dyfroedd hyd Beth‐bara a'r Iorddonen: a holl wŷr Effraim a ymgasglasant, ac a enillasant y dyfroedd hyd Beth‐bara a'r Iorddonen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Gideon yn anfon negeswyr i fryniau Effraim gyda'r neges yma: “Dewch i lawr i ymladd y Midianiaid! Ewch o'u blaenau a'u stopio nhw rhag croesi'r rhydau dros yr Afon Iorddonen yn Beth-bara.” A dyma ddynion Effraim yn dod a gwneud hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Gideon wedi anfon negeswyr drwy holl ucheldir Effraim a dweud, "Dewch i lawr yn erbyn Midian a chymryd rhydau'r Iorddonen o'u blaen hyd Beth-bara." Casglwyd holl wu375?r Effraim a daliasant rydau'r Iorddonen cyn belled Beth-bara.