Judges 7:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A daliasant ddau o dywysogion Midian, Oreb a Seeb; a lladdasant Oreb ar graig Oreb, a lladdasant Seeb wrth winwryf Seeb, ac a erlidiasant Midian, ac a ddygasant bennau Oreb a Seeb at Gedeon, i'r tu arall i'r Iorddonen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n dal dau o arweinwyr byddin Midian, Oreb a Seeb. Cafodd Oreb ei ladd ganddyn nhw wrth y graig sy'n cael ei hadnabod bellach fel Craig Oreb. A cafodd Seeb ei ladd wrth y gwinwryf sy'n cael ei adnabod bellach fel Gwinwryf Seeb. A dyma nhw'n dod â phen y ddau at Gideon, oedd yr ochr arall i'r Afon Iorddonen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daliasant Oreb a Seeb, dau arweinydd Midian, a lladd Oreb wrth graig Oreb, a Seeb wrth winwryf Seeb; yna, wedi iddynt erlid Midian, daethant phen Oreb a phen Seeb at Gideon y tu hwnt i'r Iorddonen.