Judges 7:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r noson honno y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho ef, Cyfod, dos i waered i'r gwersyll; canys mi a'i rhoddais yn dy law di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A'r noson honno, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Ewch i lawr i ymosod ar wersyll y Midianiaid. Dw i'n mynd i'w rhoi yn eich dwylo chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y noson honno dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, "Cod, dos i lawr i'r gwersyll, oherwydd yr wyf yn ei roi yn dy law.