Judges 8:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddaliodd lanc o wŷr Succoth, ac a ymofynnodd ag ef. Ac yntau a ysgrifennodd iddo dywysogion Succoth, a'r henuriaid; sef dau ŵr ar bymtheg a thrigain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yno dyma fe'n dal dyn ifanc o Swccoth a dechrau gofyn cwestiynau iddo. Dyma'r dyn ifanc yn ysgrifennu enwau swyddogion ac arweinwyr y dref i gyd iddo — saith deg saith o ddynion i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
daliodd un o fechgyn Succoth; wedi iddo'i holi, ysgrifennodd hwnnw iddo restr yn cynnwys saith deg a saith o arweinwyr a henuriaid Succoth.