Judges 8:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd Seba a Salmunna, Cyfod di, a rhuthra i ni: canys fel y byddo y gŵr, felly y bydd ei rym. A Gedeon a gyfododd, ac a laddodd Seba a Salmunna, ac a gymerth y colerau oedd am yddfau eu camelod hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Seba a Tsalmwna yn dweud wrth Gideon, “Lladd ni dy hun, os wyt ti'n ddigon o ddyn!” A dyma Gideon yn lladd y ddau ohonyn nhw. Yna dyma fe'n cymryd yr addurniadau brenhinol siap cilgant oedd am yddfau eu camelod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Seba a Salmunna, "Tyrd, taro ni dy hun, oherwydd fel y mae dyn y mae ei nerth." Felly cododd Gideon a lladd Seba a Salmunna, a chymryd y tlysau oedd am yddfau eu camelod.