Judges 8:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedodd Gedeon hefyd wrthynt, Gofynnaf ddymuniad gennych, ar roddi o bob un ohonoch i mi glustlysau ei ysglyfaeth: canys clustlysau aur oedd ganddynt hwy, oherwydd mai Ismaeliaid oeddynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yna, meddai wrthyn nhw, “Gallwch wneud un peth i mi. Dw i eisiau i bob un ohonoch chi roi clustdlws i mi o'i siâr o'r pethau gymeroch chi oddi ar y Midianiaid.” (Ismaeliaid oedden nhw, ac roedden nhw i gyd yn gwisgo clustdlysau aur.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna meddai Gideon, "Gadewch imi ofyn un peth gennych, sef bod pob un yn rhoi imi glustlws o'i ysbail." Yr oedd ganddynt glustlysau aur am mai Ismaeliaid oeddent.