Judges 8:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd tywysogion Succoth, A yw llaw Seba a Salmunna yn awr yn dy law di, fel y rhoddem ni fara i'th lu di?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma arweinwyr Swccoth yn ateb, “Pam ddylen ni roi bwyd i chi? Wnewch chi byth lwyddo i ddal Seba a Tsalmwna!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dywedodd arweinwyr Succoth, "A wyt eisoes yn cydio yn sodlau Seba a Salmunna, fel ein bod i roi bwyd i'th fintai?"