Judges 9:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r fiaren a ddywedodd wrth y prennau, Os mewn gwirionedd yr eneiniwch fi yn frenin arnoch, deuwch ac ymddiriedwch yn fy nghysgod i: ac onid e, eled tân allan o'r fiaren, ac ysed gedrwydd Libanus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r berth ddrain yn ateb, ‘Os ydych chi wir eisiau fi'n frenin, dewch i gysgodi oddi tanaf fi. Os na wnewch chi, bydda i'n cynnau tân fydd yn llosgi coed cedrwydd Libanus.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai'r fiaren wrth y coed, 'Os ydych o ddifrif am f'eneinio i yn frenin arnoch, dewch a llochesu yn fy nghysgod. Onid e, fe ddaw tn allan o'r fiaren a difa cedrwydd Lebanon.'