Judges 9:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn awr gan hynny, os mewn gwirionedd a phurdeb y gwnaethoch, yn gosod Abimelech yn frenin, ac os gwnaethoch yn dda â Jerwbbaal, ac â'i dŷ, ac os yn ôl haeddedigaeth ei ddwylo y gwnaethoch iddo:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
[16-17] “Roedd fy nhad i wedi ymladd drosoch chi a mentro'i fywyd i'ch achub chi o afael y Midianiaid. Ai dyma sut ydych chi'n diolch iddo? — trwy wneud Abimelech yn frenin! Ydych chi wedi ymddwyn yn anrhydeddus? Ydych chi wedi bod yn deg â Gideon a'i deulu? Naddo!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yn awr, a ydych wedi gweithredu'n onest a chydwybodol wrth wneud Abimelech yn frenin? A ydych wedi delio'n deg Jerwbbaal a'i deulu? Ai'r hyn a haeddai a wnaethoch iddo?