Judges 9:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chwithau a gyfodasoch yn erbyn tŷ fy nhad i heddiw, ac a laddasoch ei feibion ef, sef dengwr a thrigain, ar un garreg, ac a osodasoch Abimelech, mab ei lawforwyn ef, yn frenin ar wŷr Sichem, oherwydd ei fod ef yn frawd i chwi:)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi wedi ei fradychu. Dych chi wedi lladd ei feibion — saith deg ohonyn nhw — ar un garreg! A dyma chi, yn gwneud Abimelech, mab ei gaethferch, yn frenin, dim ond am ei fod yn perthyn i chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond heddiw yr ydych wedi codi yn erbyn tu375? fy nhad a lladd ei feibion, deg a thrigain o wu375?r, ar un maen. Yr ydych wedi gwneud Abimelech, mab ei gaethferch, yn frenin ar benaethiaid Sichem, am ei fod yn frawd i chwi.