Judges 9:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwŷr Sichem a osodasant iddo ef gynllwynwyr ar ben y mynyddoedd; a hwy a ysbeiliasant bawb a'r a oedd yn tramwy heibio iddynt ar hyd y ffordd. A mynegwyd hynny i Abimelech.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma arweinwyr Sichem yn gosod lladron yn y bryniau, i ymosod ar bawb oedd yn teithio'r ffordd honno. Ond dyma Abimelech yn clywed am y peth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gosododd penaethiaid Sichem rai ar bennau'r mynyddoedd i wylio amdano; yr oeddent hwy'n ysbeilio pawb a ddi heibio iddynt ar y ffyrdd, a dywedwyd am hyn wrth Abimelech.