Judges 9:28 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Gaal mab Ebed a ddywedodd, Pwy yw Abimelech, a phwy yw Sichem, fel y gwasanaethem ef? onid mab Jerwbbaal yw efe? onid Sebul yw ei swyddog? gwasanaethwch wŷr Hemor tad Sichem: canys paham y gwasanaethem ni ef?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pwy ydy Abimelech?” meddai Gaal fab Efed. “Pam ddylen ni, bobl Sichem, fod yn weision bach iddo? Mab Gideon ydy e, a Sebwl yn ddirprwy wedi ei benodi ganddo. Un o ddisgynyddion Hamor, tad Sechem, ddylen ni ei wasanaethu. Pam ddylen ni wasanaethu Abimelech?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Gaal fab Ebed, "Pwy yw Abimelech a phwy yw pobl Sichem, fel ein bod ni yn ei wasanaethu ef? Oni ddylai mab Jerwbbaal a'i oruchwyliwr Sebul wasanaethu gwu375?r Hemor tad Sichem? Pam y dylem ni ei wasanaethu ef?