Judges 9:31 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a anfonodd genhadau at Abimelech yn ddirgel, gan ddywedyd, Wele Gaal mab Ebed a'i frodyr wedi dyfod i Sichem; ac wele hwynt yn cadarnhau y ddinas i'th erbyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Anfonodd negeswyr at Abimelech, oedd yn Arwma, i ddweud, “Gwylia dy hun! Mae Gaal fab Efed a'i frodyr wedi dod i Sichem i godi twrw a chael y dref i wrthryfela yn dy erbyn di.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonodd negeswyr at Abimelech i Aruma a dweud, "Edrych, y mae Gaal fab Ebed a'i gymrodyr wedi dod i Sichem, ac yn troi'r dref yn d'erbyn.