Judges 9:36 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd Gaal y bobl, efe a ddywedodd wrth Sebul, Wele bobl yn dyfod i waered o ben y mynyddoedd. A dywedodd Sebul wrtho, Cysgod y mynyddoedd yr ydwyt ti yn ei weled fel dynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd Gaal nhw, dyma fe'n dweud wrth Sebwl, “Edrych, mae yna bobl yn dod i lawr o'r mynyddoedd acw.” Ond dyma Sebwl yn dweud, “Cysgodion wyt ti'n eu gweld — mae'n edrych fel pobl o'r fan yma.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelodd Gaal y bobl a dywedodd wrth Sebul, "Edrych, y mae pobl yn dod i lawr o gopaon y mynyddoedd." Ond dywedodd Sebul wrtho, "Gweld cysgod y mynyddoedd fel pobl yr wyt."