Judges 9:43 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a gymerth y bobl, ac a'u rhannodd yn dair byddin, ac a gynllwynodd yn y maes, ac a edrychodd, ac wele y bobl wedi dyfod allan o'r ddinas; ac efe a gyfododd yn eu herbyn, ac a'u trawodd hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dyma fe'n rhannu ei fyddin yn dair uned filwrol, a paratoi i ymosod. Ac wrth i'r bobl ddod allan o'r dref, dyma fe'n ymosod arnyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerodd yntau fyddin, a'i rhannu'n dair mintai ac ymguddio yn y maes, a phan welodd y bobl yn dod allan o'r dref, cododd yn eu herbyn a'u taro.