Judges 9:44 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Abimelech, a'r fyddin oedd gydag ef, a ruthrasant, ac a safasant wrth ddrws porth y ddinas: a'r ddwy fyddin eraill a ruthrasant ar yr holl rai oedd yn y maes, ac a'u trawsant hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth Abimelech a'i uned at giât y dref a blocio'r ffordd yn ôl, ac yna dyma'r ddwy uned arall yn taro'r bobl oedd wedi mynd allan i'r caeau, a'u lladd nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymosododd Abimelech a'r fintai oedd gydag ef, a sefyll ym mynediad porth y dref, ac yr oedd dwy fintai yn ymosod ar bawb oedd yn y maes ac yn eu taro.