Judges 9:48 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Abimelech a aeth i fyny i fynydd Salmon, efe a'r holl bobl oedd gydag ef: ac Abimelech a gymerth fwyell yn ei law, ac a dorrodd gangen o'r coed, ac a'i cymerth hi, ac a'i gosododd ar ei ysgwydd; ac a ddywedodd wrth y bobl oedd gydag ef, Yr hyn a welsoch fi yn ei wneuthur, brysiwch, gwnewch fel finnau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma fe'n mynd a'i filwyr i ben Mynydd Salmon. Yna torrodd ganghennau oddi ar goeden gyda bwyell, a'u rhoi ar ei ysgwydd. Dwedodd wrth ei filwyr am wneud yr un peth ar unwaith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac aeth ef a phawb o'r fyddin oedd gydag ef i Fynydd Salmon. Cymerodd Abimelech un o'r bwyeill yn ei law, a thorri cangen o'r coed, a'i chodi a'i gosod ar ei ysgwydd. Yna dywedodd wrth y bobl oedd gydag ef, "Brysiwch, gwnewch yr un fath mi."