Judges 9:54 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna efe a alwodd yn fuan ar y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, ac a ddywedodd wrtho, Tyn dy gleddyf, a lladd fi; fel na ddywedant amdanaf, Gwraig a'i lladdodd ef. A'i lanc a'i trywanodd ef, ac efe a fu farw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fe'n galw ar y dyn ifanc oedd yn cario ei arfau, “Tynn dy gleddyf a lladd fi. Dw i ddim eisiau i bobl ddweud fod gwraig wedi fy lladd i.” Felly dyma'r dyn ifanc yn ei drywanu gyda'i gleddyf, a bu farw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar unwaith galwodd ei lanc, a oedd yn cludo'i arfau, a dweud wrtho, "Tyn dy gleddyf a lladd fi, rhag iddynt ddweud amdanaf mai gwraig a'm lladdodd." Felly trywanodd ei lanc ef, a bu farw.