Judges 9:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan fynegasant hynny i Jotham, efe a aeth ac a safodd ar ben mynydd Garisim, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a waeddodd, dywedodd hefyd wrthynt, Gwrandewch arnaf fi, O wŷr Sichem, fel y gwrandawo DUW arnoch chwithau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd Jotham am hyn dyma fe'n dringo i gopa Mynydd Gerisim. A dyma fe'n gweiddi'n uchel ar y bobl islaw, “Gwrandwch arna i, arweinwyr Sichem — os ydych chi eisiau i Dduw wrando arnoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddywedwyd hyn wrth Jotham, fe aeth ef a sefyll ar gopa Mynydd Garisim a gweiddi'n uchel. Meddai wrthynt, "Gwrandewch arnaf fi, chwi benaethiaid Sichem, er mwyn i Dduw wrando arnoch chwithau.