Lamentations 1:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y gwrthwynebwr a estynnodd ei law ar ei holl hoffbethau hi: hi a welodd y cenhedloedd yn dyfod i mewn i'w chysegr, i'r rhai y gorchmynasit ti na ddelent i'th gynulleidfa.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r gelyn wedi cymryd ei thrysorau hi i gyd. Ydy, mae hi wedi gorfod gwylio milwyr paganaidd yn mynd i mewn i'r deml sanctaidd. Ie, y bobl wnest ti wrthod gadael iddyn nhw fod yn rhan o'r gynulleidfa o addolwyr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Estynnodd y gelyn ei law i gymryd ei holl drysorau; yn wir, gwelodd hi y cenhedloedd yn dod i'w chysegr rhai yr oeddit ti wedi eu gwahardd yn dod i mewn i'th gynulliad!