Lamentations 1:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hyn yr ydwyf yn wylo; y mae fy llygad, fy llygad, yn rhedeg gan ddwfr, oherwydd pellhau oddi wrthyf ddiddanwr a ddadebrai fy enaid: fy meibion sydd anrheithiedig, am i'r gelyn orchfygu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pam dw i'n crïo. Dyna pam mae'r dagrau'n llifo. Does gen i neb wrth law i'm cysuro; neb i godi fy nghalon. Does gan fy mhlant ddim dyfodol. Mae'r gelyn wedi eu gorchfygu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O achos hyn yr wyf yn wylo, ac y mae fy llygad yn llifo gan ddagrau, oherwydd pellhaodd yr un sy'n fy nghysuro ac yn fy nghynnal; y mae fy mhlant wedi eu hanrheithio am fod y gelyn wedi gorchfygu.