Lamentations 1:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Seion a ledodd ei dwylo, heb neb yn ei diddanu: yr ARGLWYDD a orchmynnodd am Jacob, fod ei elynion yn ei gylch: Jerwsalem sydd fel gwraig fisglwyfus yn eu mysg hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Seion yn begian am help, ond does neb yno i'w chysuro hi. Mae'r ARGLWYDD wedi gorchymyn i'r gwledydd o'u cwmpas ymosod ar bobl Jacob. Mae Jerwsalem yn eu canol nhw fel peth aflan y dylid ei daflu i ffwrdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Estynnodd Seion ei dwylo, ond nid oedd neb i'w chysuro; gorchmynnodd yr ARGLWYDD i'r gelynion amgylchynu Jacob o bob cyfeiriad; yr oedd Jerwsalem wedi mynd yn ffieidd-dra yn eu mysg.