Lamentations 1:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cyfiawn yw yr ARGLWYDD; oblegid myfi a fûm anufudd i'w air ef: gwrandewch, atolwg, bobloedd oll, a gwelwch fy ngofid: fy morynion a'm gwŷr ieuainc a aethant i gaethiwed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yr ARGLWYDD sy'n iawn; dw i wedi tynnu'n groes i beth ddwedodd e. Gwrandwch arna i, bawb! Edrychwch gymaint dw i'n ei ddiodde. Mae fy merched a'm dynion ifanc wedi cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn, ond gwrthryfelais yn erbyn ei air. Gwrandewch yn awr, yr holl bobloedd, ac edrychwch ar fy nolur: aeth fy merched a'm dynion ifainc i gaethglud.