Lamentations 1:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gelwais am fy nghariadau, a hwy a'm twyllasant; fy offeiriaid a'm hynafgwyr a drengasant yn y ddinas, tra oeddynt yn ceisio iddynt fwyd i ddadebru eu henaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roeddwn i'n galw ar fy ffrindiau am help ond dyma nhw i gyd yn troi cefn arna i. Bu farw'r offeiriaid a'r arweinwyr yn y ddinas wrth edrych am fwyd i gadw eu hunain yn fyw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gelwais ar fy nghariadon, ond y maent hwy wedi fy mradychu; trengodd f'offeiriaid a'm henuriaid yn y ddinas, wrth chwilio am fwyd i'w cynnal eu hunain.