Lamentations 1:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae hi yn wylo yn hidl liw nos, ac y mae ei dagrau ar ei gruddiau, heb neb o'i holl gariadau yn ei chysuro: ei holl gyfeillion a fuant anghywir iddi, ac a aethant yn elynion iddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae hi'n beichio crïo drwy'r nos, a'r dagrau'n llifo i lawr ei hwyneb. Does dim un o'i chariadon yno i'w chysuro. Mae ei ffrindiau i gyd wedi ei bradychu ac wedi troi'n elynion iddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'n wylo'n chwerw yn y nos, a dagrau ar ei gruddiau; nid oes ganddi neb i'w chysuro o blith ei holl gariadon; y mae ei chyfeillion i gyd wedi ei bradychu, ac wedi troi'n elynion iddi.