Lamentations 1:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Clywsant fy mod i yn ucheneidio: nid oes a'm diddano: fy holl elynion, pan glywsant fy nrygfyd, a lawenychasant am i ti wneuthur hynny: ond ti a ddygi i ben y dydd a gyhoeddaist, a hwy a fyddant fel finnau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw wedi fy nghlywed i'n griddfan, a does yna neb i'm cysuro. Mae fy ngelynion wedi clywed am fy helyntion, ac maen nhw'n falch dy fod wedi gwneud hyn i mi. Brysied y diwrnod rwyt wedi sôn amdano, pan gân nhw eu cosbi run fath â fi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwrandewch pan wyf yn griddfan, heb neb i'm cysuro. Clywodd fy holl elynion am fy nhrychineb, a llawenhau am iti wneud hyn; ond byddi di'n dwyn arnynt y dydd a benodaist, a byddant hwythau fel finnau.