Lamentations 1:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jwda a fudodd ymaith gan flinder, a chan faint caethiwed; y mae hi yn aros ymysg y cenhedloedd, heb gael gorffwystra: ei holl erlidwyr a'i goddiweddasant hi mewn lleoedd cyfyng.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pobl Jwda wedi eu cymryd i ffwrdd yn gaethion; ar ôl diodde'n hir maen nhw'n gaethweision. Mae'n nhw'n byw mewn gwledydd eraill ac yn methu'n lân a setlo yno. Mae'r gelynion oedd yn eu herlid wedi eu dal; doedd ganddyn nhw ddim gobaith dianc.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth Jwda i gaethglud mewn trallod ac mewn gorthrwm mawr; y mae'n byw ymysg y cenhedloedd, ond heb gael lle i orffwys; y mae ei holl erlidwyr wedi ei goddiweddyd yng nghanol ei gofidiau.