Lamentations 1:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae ffyrdd Seion yn galaru, o eisiau rhai yn dyfod i'r ŵyl arbennig: ei holl byrth hi sydd anghyfannedd, ei hoffeiriaid yn ucheneidio, ei morynion yn ofidus, a hithau yn flin arni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r ffyrdd gwag i Jerwsalem yn galaru; Does neb yn teithio i'r gwyliau i ddathlu. Does dim pobl yn mynd trwy giatiau'r ddinas. Dydy'r offeiriaid yn gwneud dim ond griddfan, ac mae'r merched ifanc, oedd yno'n canu a dawnsio, yn drist. Mae Jerwsalem mewn cyflwr truenus!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae ffyrdd Seion mewn galar am nad oes neb yn dod i'r gwyliau; y mae ei holl byrth yn anghyfannedd, a'i hoffeiriaid yn griddfan; y mae ei merched ifainc yn drallodus, a hithau mewn chwerwder.