Lamentations 1:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ei gwrthwynebwyr ydynt bennaf, y mae ei gelynion yn ffynnu: canys yr ARGLWYDD a'i gofidiodd hi am amlder ei chamweddau: ei phlant a aethant i gaethiwed o flaen y gelyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ei gelynion sy'n ei rheoli, ac mae bywyd mor braf iddyn nhw am fod yr ARGLWYDD wedi ei chosbi hi am wrthryfela yn ei erbyn mor aml. Mae ei phlant wedi eu cymryd i ffwrdd yn gaethion gan y gelyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth ei gwrthwynebwyr yn feistri arni, a llwyddodd ei gelynion, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dwyn trallod arni o achos amlder ei throseddau; y mae ei phlant wedi mynd ymaith yn gaethion o flaen y gelyn.